Archwilio grym lle

Archwilio grym lle

Tach 10, 2025

Tfc Logo Stacked Cmyk

Mae blog newydd o Gyda’n Gilydd dros Newid wedi’i chyhoeddi ar Arsyllfa Cymru | Observatory Wales, yn edrych ar ‘Rym Lle – yr angen i roi cymuned wrth wraidd polisi cenedlaethol Cymru.’

Yn y blog, mae Gyda’n Gilydd dros Newid yn dangos sut y gall polisi cenedlaethol gefnogi cymunedau, pentrefi a threfi yn well gan osod wyth blaenoriaeth ar gyfer cryfhau arweinyddiaeth, cydlynu ac ariannu cynaliadwy ar draws Cymru.

Mae Sgema yn gweithio ar y cyd a Gyda’n Gilydd dros Newid i ddatblygu adnodd gwybodaeth ar lein newydd oddi fewn i fframwaith e-hwb Arsyllfa. Bydd y gwaith yn rhan o blatfform ehangach Arsyllfa, sy’n bodoli i rannu syniadau, ymchwil ac arloesedd sy’n cefnogi’r economi wledig ac yn cryfhau cymunedau ar draws Cymru.

Bydd y platfform newydd yn eistedd oddi fewn i’r platfform Arsyllfa ehangach, ac yn cyfrannu at gasgliad cynyddol o gynnwys, mewnwelediadau a chyfleoedd i ymgysylltu o sefydliadau ar draws Cymru.

Darllenwch flog diweddaraf Gyda’n Gilydd dros Newid ar Arsyllfa Cymru | Osbervatory Wales

Grym Lle – yr angen i roi cymuned wrth wraidd polisi cenedlaethol Cymru

 

Tfc Logo Stacked Cmyk
Share This