Llyfrau Sgema yn codi £3,000 i gefnogi cymorth dyngarol yn Palestina

Llyfrau Sgema yn codi £3,000 i gefnogi cymorth dyngarol yn Palestina

Maw 20, 2026

Boywallbook

Wrth i’r blychau olaf adael y warws, mae adain gyhoeddi Sgema wedi cyhoeddi bod y prosiect cyhoeddi aml-ieithog diweddar, The Boy and the Wall, wedi codi £3,000.

Wedi’i werthu ledled Cymru mewn siopau llyfrau lleol ac ar y siop ar-lein, rhoddwyd yr holl elw a godwyd trwy SOS Children’s Village Palestine i gefnogi cymorth hanfodol yn y wlad.

Cyfrannodd amryw o aelodau o dîm Sgema—o gopïwyr dwyieithog i ddylunwyr—eu harbenigedd yn rhad ac am ddim ar gyfer yr achos teilwng hwn.

Gan roi’r arian a godwyd ar waith ddiriaethol, cadarnhaodd SOS Children’s Village Palestine ei fod wedi arwain at:

• 136 o unigolion yn cymryd rhan mewn gweithdai ar amddiffyn plant, cydraddoldeb rhywedd, hawliau plant a llwybrau adrodd;
• 7 sesiwn cymorth cyntaf seicogymdeithasol i helpu unigolion i brosesu teimladau o ofn a gwella eu lles;
• 30 o bobl yn derbyn cymorth i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol—o wasanaethau meddygol, i gymorth lloches, i eitemau hanfodol nad ydynt yn fwyd megis dillad neu nwyddau glanweithiol; neu
• 94 o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden wedi’u cynllunio i helpu prosesu profiadau a thrawma.

I ddysgu rhagor, cliciwch ar y crynodeb canlynol gan ein partner sy’n darparu cymorth ar lawr gwlad yn Palestina: SOS Children’s Villages Palestine.

Dywedodd un o weithwyr SOS Children’s Villages Palestine yn y Lan Orllewinol: “Mae’r angen yn enfawr ond mae pob partneriaeth, pob cyfraniad unigol, yn gwneud gwahaniaeth—rydym ni i gyd yn gwybod hynny. Rydym yn gwybod ein bod yn achub bywydau, mae mor syml â hynny. Felly unrhyw ymdrech, unrhyw weithred, pan fyddwn yn cydweithio, credwch fi, mae’n creu effaith uniongyrchol ar lawr gwlad.”

Mae’r ymateb i’r cyhoeddiad aml-ieithog (Cymraeg, Arabeg ac Saesneg) wedi dangos sut y gall adrodd straeon chwarae rôl mewn codi ymwybyddiaeth tra hefyd yn cyfrannu’n uniongyrchol mewn cyfnodau o argyfwng. Mae nifer cyfyngedig o gopïau o The Boy and the Wall dal ar gael i’w prynu trwy siop Sgema.

Boywallbook
Share This