Sgema yn derbyn cydnabyddiaeth B Corp

Sgema yn derbyn cydnabyddiaeth B Corp

Hyd 31, 2025

Certified B Corporation5988

Mae Sgema wedi llwyddo i ddyfod yn un o’r unig gwmnïau cyfathrebu yng Nghymru i dderbyn Cydnabyddiaeth B Corp, sy’n dangos ymrwymiad y cwmni i gynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae Corfforaethau B Corp yn cael eu hachredu gan B Lab UK, ac yn cyrraedd safonau uchel o berfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol, ynghyd a sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Mae’r gydnabyddiaeth yn ymgais i ailddiffinio llwyddiant ym myd busnes drwy wobrwyo arferion adnewyddadwy a moesegol sy’n gosod pobl a’r blaned wrth wraidd penderfyniadau.

Wrth sylwebu ar y cyhoeddiad, dywedodd uwch ymgynghorydd Sgema, Meilyr Ceredig:

“Rydym yn falch o’r gwaith y mae Sgema wedi’i wneud er mwyn derbyn Cydnabyddiaeth B Corp. Mae’n dyst i’n hymrwymiad i barhau i wella sut yr ydym yn gweithio a sut yr ydym yn deall ein rôl yng Nghymru a’r byd ehangach. Nid man terfyn yw hyn ond yn hytrach cam sy’n parhau i adeiladu ar ein gweledigaeth ynghylch sut gall y sector breifat fod yn ddylanwad cadarnhaol mewn Cymru fywiog – gan gyd fynd gyda phob un o Amcanion Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nawr mae ein ffocws ar adeiladu ar y sylfaen hwn gyda phartneriaid, cleientiaid a chyflenwyr yng Nghymru sy’n meddwl yr un modd ac yn rhannu’r un gwerthoedd. Gyda’n gilydd, gallwn greu ecosystem o gefnogaeth gall gynyddu’n huchelgais ni gyd fel cenedl ac sy’n darparu buddiannau hir dymor i bobl, cymunedau a’r amgylchedd.”

Mae B Lab UK yn rhan o Rwydwaith Byd-eang B (B Global Network) sef mudiad nid er elw sy’n gweithio i drawsnewid yr economi fyd eang er mwyn sicrhau ei fod yn fuddiol i bawb, nid ychydig rai yn unig. Ei nod yw creu systemau sy’n blaenoriaethu dulliau adnewyddadwy yn hytrach na rhai echdynnol, a chydweithio yn hytrach na ffyrdd unigolyddol o weithio, gan helpu i greu dyfodol tecach a mwy cynaliadwy. Mae ennill Cydnabyddiaeth B Corp yn broses drylwyr sy’n gofyn i gwmnïau ymrwymo i ofynion penodol ynghylch sut y maent yn gweithredu a masnachu. I gymhwyso, rhaid i gwmnïau gyrraedd Gofynion Sylfaen a hefyd arddangos gweithgarwch ar draws ystod o feysydd traweffaith. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan B Corp.

Gellir dod o hyd i’r Cynllun Lleihau Carbon yma: Carbon-Reduction-Plan – Sgema.

Certified B Corporation5988
Share This