Cymru mewn 100 gair…

Cymru mewn 100 gair…

Maw 28, 2025

100 Words T Mewn 03 02 25 Page 01

Er mwyn dathlu ein hardystiad Cynnig Cymraeg diweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg, mae Sgema wedi uno â’r cyhoeddwyr blaenllaw Y Lolfa i ddosbarthu Cymru mewn 100 Gair  i bedwar ban – llyfr bach maint poced sy’n nodi rhai o eiriau ac ymadroddion mwyaf unigryw a nodedig Cymru.

Mae rhai’n hynafol, yn dyddio yn ôl i Gymraeg Cynnar, tra bod eraill yn adlewyrchu traddodiadau diwylliannol a chymdeithasol bywiog Cymru.

Dyma dri o’r geiriau sy’n sefyll allan, a ddewiswyd gan ein tîm yr wythnos hon:

Ych a fi

Rhywbeth gwirioneddol ffiaidd neu afiach.

Cynefin

‘habitat’ yw’r cyfieithiad agosaf yn Saesneg neu ‘heimat’ yn Almaeneg. Rhywle y dylai person neu anifail fyw, lle mae’r amgylchedd yn teimlo’n iawn, yn groesawgar ac yn gyfarwydd.

Clatsho bant

mae clatsho yn un o nifer o eiriau Cymraeg am ymladd: ystyr ‘clatsho bant’ yw cychwyn, tebyg i’r term ‘fire away’ yn Saesneg.

Os hoffech chi gopi, cysylltwch! Yr unig amod yw – defnyddiwch y llyfr! Dysgwch ychydig o eiriau a’u defnyddio mewn sgwrs bob dydd. P’un a ydych chi’n siarad Cymraeg ai peidio, rydyn ni’n hyderus y byddan nhw’n annog pobl i siarad a dysgu.

100 Words T Mewn 03 02 25 Page 01
Share This