Pwy ydym ni

Cyfarwyddwr Sgema, a’i Uwch Ymgynghorydd, yw Meilyr Ceredig – sy’n Siartredig gan y CIPR a CIM. Mae ganddo dros ddau ddegawd o brofiad o weithio i rai o sefydliadau sector preifat a chyhoeddus mwyaf adnabyddus Cymru yn rhai o’r asiantaethau mwyaf blaenllaw yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Ar gyfer pob brîff ymgyrchu, defnyddir tîm wedi’i deilwra o weithwyr proffesiynol, o ymgynghorwyr sy’n benodol i’r testun i arbenigwyr disgyblaeth marchnata, er mwyn cyflawni’r briff yn erbyn amcanion clir.

Yr hyn rydym yn credu ynddo

Does dim llawer o wybodaeth amdanom ar y cyfryngau cymdeithasol. Dydyn ni ddim yn mynychu digwyddiadau rhwydweithio swnllyd chwaith. Nid dyna sut rydym yn gweithio. Rydym yn credu mewn hyrwyddo ein cleientiaid a’u hymgyrchoedd – nid ni ein hunain.

A gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn cynnig y cyfrinachedd llwyr i’n cleientiaid sydd fel arfer yn cael ei gysylltu â’r gyfraith, yn hytrach na chyfathrebu.

Ein prawf litmws yw a fydd Cymru yn lle gwell os bydd y prosiect yn llwyddiannus. Fel yr ymgynghorwyr a gyfarwyddodd prosiect y ‘sgwrs genedlaethol’ cyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ein gobaith yw gweithio gyda chleientiaid i roi gwerth i’w sefydliad ond wrth wneud hynny rhoi gwerth hefyd i ardaloedd ehangach o Gymru.

Ein hail brawf ydy a yw’n ddiddorol… felly os yw’r testun yn ddiddorol ond y gyllideb yn fach rydym weithiau yn mynd amdani os ydym yn meddwl y gallwn helpu i symud rhywbeth ymlaen.

Dyw ein gwaith diweddar ddim i’w weld ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Sgema. Llwyddiant ein cleientiaid yw hwnnw i’w rannu. Mae ein rôl ni tu ôl i’r camera, nid o’i flaen.

Ein profiad

O brosiectau rheoli rhanddeiliaid ar gyfer sefydliadau blaenllaw’r DU, ac ymgynghoriadau allgymorth cymunedol ar gyfer cwmnïau ynni adnewyddadwy blaenllaw, i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth defnyddwyr gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru – rydym wedi arfer â phrosiectau mawr a bach.

Wnewch chi ddim canfod astudiaethau achos o gleientiaid eraill yma – ond os hoffech ddarllen geirda, gadewch wybod. Rydym yn hapus i’ch cyflwyno i unrhyw un o’r cleientiaid yr ydym wedi cyd-weithio a nhw dros y blynyddoedd i chi gael clywed eu barn onest am ein cryfderau a’n gwendidau.