Sgema yn helpu i sefydlu melin drafod i gefn gwlad Cymru

Gorffennaf 18, 2023

Sgema yn helpu i sefydlu melin drafod i gefn gwlad Cymru

Gor 18, 2023

green mountains under white clouds during daytime

Mae Sgema yn falch o gyhoeddi ein rhan fel partner yn helpu i greu melin drafod yn edrych ar faterion sy’n wynebu cefn gwlad Cymru.

Mae Arsyllfa yn brosiect bydd yn edrych ar yr holl faterion sy’n wynebu Cymru wledig, economi cefn gwlad a’r cymunedau sy’n ei ffurfio. Mae tîm Arsyllfa a diddordeb arbennig yn y modd yr ydym yn gallu wynebu datblygiadau’r dyfodol mewn cyd-destun sydd yn aml yn heriol ac yn newid yn gyflym. Drwy weithio mewn cydweithrediad a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant, mae Sgema yn gobeithio gweld Arsyllfa’n tyfu i ddatblygu’n fforwm bydd yn cynnwys y rheini sydd â diddordeb mewn sgwrs barhaus am gefn gwlad Cymru. Drwy gymell ynghyd gwahanol haenau o lywodraeth, busnesau, elusennau, sefydliadau, grwpiau cymunedol a dinasyddion, mae Arsyllfa yn gobeithio meithrin amgylchedd lle bydd trafodaethau o bwys yn cael eu cynnal am ddyfodol Cymru wledig.

Bydd Arsyllfa yn rhoi sylw penodol i arloesedd a dulliau newydd o weithio gan chwilio am ddatrysiadau creadigol i’r heriau hen a newydd y mae cymunedau cefn gwlad yn eu hwynebu. Mae newid hinsawdd a’n gadawiad o’r Undeb Ewropeaidd ymhlith nifer o ffactorau sy’n effeithio sut y mae busnes yn cael ei gynnal yng nghefn gwlad Cymru a nod Arsyllfa yw chwarae rhan allweddol wrth ganfod datrysiadau cadarnhaol i amgylchiadau heriol mewn amseroedd ansicr. I ddysgu mwy am waith Arsyllfa, gallwch ganfod mwy o wybodaeth ar eu gwefan neu drwy danysgrifio i’w cylchlythyr wythnosol, sy’n cael ei ddosbarthu bob dydd Mercher.

green mountains under white clouds during daytime
Share This